Bwyd fegan ar gyllideb. Nid oes rhaid i ddeiet fegan cytbwys fod yn ddrytach na siopa am ddeiet arferol. Gyda'n syniadau ni a'ch creadigrwydd chi, efallai y byddwch hyd yn oed yn arbed arian!
Mae’r modiwl Dinasyddiaeth yn defnyddio gemau, cardiau dadlau, fideo ac astudiaethau achos sy’n annog disgyblion i ymchwilio i ddigartrefedd a’r angen am dai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ystod o ddeunyddiau addysg ariannol i’w defnyddio gan ysgolion cynradd ac uwchradd, awdurdodau lleol ac/neu gonsortia i ddatblygu hyfforddiant o ansawdd i athrawon.
I addysg ariannol lwyddo mewn ysgolion, mae angen adnoddau syml ar athrawon, mae angen iddynt wybod beth i'w ddysgu a sicrhau bod y disgyblion yn cymryd rhan mewn gwersi hwylus - Adnoddau a dolenni.
Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig ffordd anffurfiol wedi’i strwythuro i ymchwilio i’r materion ariannol a drafodir ar y tudalennau ar-lein i fyfyrwyr a'r app ffôn clyfar.
Mae ‘Biliau’ MoneyMakesSense yn cwmpasu pob ongl ar wariant unigolyn fel oedolyn, gan roi syniad call i fyfyrwyr ar yr hyn y gallant fod yn gwario’u harian arno pan gânt eu swydd gyntaf.
Gweithgaredd – Mae’r ddolen ysgolheigaidd yma yn rhoi ystod o weithgareddau ac adnoddau ar gyfer ystod eang o oedrannau. Mae’n llawn gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol a chynlluniau gwersi fel bod eich myfyrwyr yn dod yn arbenigwyr ar drethi!
Mae’r fideo yma gan Bank of America yn rhoi esiamplau syml i chi o sut y gallwch gynilo arian pan fo myfyrwyr yn symud allan i fyw ar eu pennau eu hunain.
Prif nod yr adnodd yw rhoi cyngor ar deithio i bobl ifanc yn ystod cyfnod pan maent yn dechrau ystyried teithio’n annibynnol neu gyda’u cyfoedion am y tro cyntaf.
Mae’r adnoddau hyn wedi’u hysgrifennu fel canllaw i bobl ifanc ar y gyfraith, gan gynnwys: Bywyd - Diogelwch - Addysg - Gwaith - Arian - Teulu - Cartref - Hamdden - Teithio a thrafnidiaeth - Yr heddlu a’r llysoedd - Y gyfraith, y llywodraeth a hawliau dynol - Cysylltiadau.
Dyluniwyd Cymru, Ewrop a’r Byd (CEB) i helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth am fywyd yng Nghymru, ac am le Cymru o fewn y DU, Ewrop a gweddill y byd.