Mae Sgiliau Bywyd yn adnodd ar-lein sy’n addas i athrawon ei ddefnyddio yng nghyd-destun ABCh.
Mae wedi’i datblygu gan Gyngor Ieuenctid Caerdydd, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gesglir o arolygon â phobl ifanc yng Nghaerdydd.
Ffeithiau Allweddol am yr Arolwg Ar-lein:
Er bod peth o’r gwaith sy’n cael ei ddysgu yn ABCh yn berthnasol, nid oes ganddo unrhyw sylwedd mewn rhai meysydd.
Hoffwn ddysgu sgiliau fyddai’n helpu meithrin sgiliau bywyd, megis sut mae trethi'n gweithio neu opsiynau gyrfa gwahanol, gwleidyddiaeth, gwirfoddoli a thai.
Byddai’n braf pe byddai siaradwr gwadd yn dod i roi gwers ar y pwnc.
Wedi’i ddysgu'n wael, wedi'i esgeuluso fel pwnc. Mae angen athrawon sy’n arbenigo yn y pwnc NID ATHRAWON LLANW!
Yn ogystal, nid oes iddo arwyddocâd digonol gan fod athrawon yn cael eu tynnu o feysydd eraill i’w ddysgu.
Mae angen mwy o wersi ar sut i reoli eich bywyd eich hun yn annibynnol.
Ar hyn o bryd, mae’n teimlo fel pwnc i lenwi amser.
Dylem ddysgu mwy am ein hawliau dynol, sut i riantu'n briodol, sut i adnabod anhwylder meddyliol.
Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn gymwys i bleidleisio, nid oherwydd ein bod yn anaeddfed, ond oherwydd nad ydym yn deall digon am wleidyddiaeth.
Mae pobl angen gwybod fod iechyd meddwl yn bwysig a dylai amser gael ei dreulio'n ein haddysgu amdano, nid ei roi o'r neilltu gan fod yr ysgol eisiau canlyniadau TGAU gwell mewn Mathemateg a Saesneg.
Gofynnom ‘Pa bynciau dylai pobl ifanc gael eu dysgu mewn gwersi ABCh i’w paratoi ar gyfer bywyd?'
Yna defnyddiodd CIC ddata’r arolwg i fapio pa bynciau oedd yn cael eu haddysgu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Roedd nifer o’r pynciau a nodwyd fel Bwlio, Ysmygu, Bwyta’n Iach yn cael eu haddysgu’n eang.
Yna roedd gennym restr o bynciau yr oedd angen eu haddysgu mewn gwersi ABCh.
Rydym wedi datblygu'r adnodd Sgiliau Bywyd o amgylch y pynciau hyn i helpu athrawon a gweithwyr ieuenctid i fodloni anghenion pobl ifanc.
Y pynciau yw:
Yn benodol, hoffai plant a phobl ifanc weld fwy o ffocws ar gymwyseddau cymdeithasol cyffredinol – sgiliau bywyd, hyder personol ac addysg bersonol a chymdeithasol.
Dylai'r cwricwlwm sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn unigolion iach a hyderus sydd â’r sgiliau a'r wybodaeth i reoli eu bywydau pob dydd mewn modd mor annibynnol â phosib.
Mae ein fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) ar gyfer plant rhwng 7-19 oed yng Nghymru yn cynnig canllawiau i ysgolion ac athrawon ar sut i ddysgu ABCh.
Mae gofyn i athrawon ddeall anghenion dysgu amrywiol eu dysgwyr a gwneud pob dim hyd eu gallu i ddarparu'r addysg orau posib er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial, waeth beth fo’u hamgylchiadau personol.
Mae ABCh yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Mae ABCh yn addysgiadol iawn, a gall wella ein dealltwriaeth.
Mae angen dysgu plant i beidio â gwneud camgymeriadau gwirion pan maent yr oed cywir ac ar yr adeg gywir.
Mae ABCh yn ein paratoi ar gyfer bod yn oedolion sy’n edrych ar ôl ein hunain.
Mae ABCh yn gymorth mawr o ran ein haddysgu i’r dyfodol a beth i’w wneud gyda’ch iechyd a’ch perthnasoedd.